2011 Rhif  1514 (Cy. 178) (C. 57)

adEILADU, cymru

Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

I’r graddau y mae’r rheiny’n rhychwantu Cymru a Lloegr, mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau yn Rhan 8 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) (“Deddf 2009”) o ran contractau adeiladu sy’n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru. Nid yw’n cychwyn y darpariaethau hyn o ran contractau adeiladu eraill sy’n cael eu cychwyn gan orchmynion cychwyn ar wahân.

Mae Rhan 8 o Ddeddf 2009 yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53) (“Deddf 1996”).

Mae darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf 2009 y deuir â hwy i rym gan y Gorchymyn hwn (lle bo’n gymwys o ran Cymru) wedi’u cynnwys yn adran 138, sy’n rhoi pŵer newydd sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru anghymhwyso unrhyw rai neu’r cyfan o ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf 1996.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym, ar y diwrnod ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, y ddarpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion o dan y pŵer y mae adran 138 o Ddeddf 2009 yn ei fewnosod yn Neddf 1996.

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

I’r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr, mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2009 wedi’u dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

 

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif yr O.S

Adran 69 (rhan)

25.11.2009

2009/3087

Adran 71

25.11.2009

2009/3087

Adran 84

25.11.2009

2009/3087

Adran 86

25.11.2009

2009/3087

Adran 87

25.11.2009

2009/3087

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 wedi’u dwyn i rym i’r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran contractau adeiladu eraill drwy’r Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2009/3087, O.S. 2009/3318 ac O.S. 2010/881.

Gweler hefyd adran 148 ynglŷn â’r darpariaethau a ddaeth i rym wrth i Ddeddf 2009 gael ei phasio.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2011 Rhif  1514 (Cy. 178) (C. 57)

adEILADU, cymru

Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011

Wedi’i wneud                       17 Mehefin 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 149(1) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009. 

Rhychwant a chymhwyso’r darpariaethau sy’n dod i rym

2. Mae adran 138 o’r Ddeddf yn dod i rym i’r graddau y mae’n rhychwantu Cymru a Lloegr o ran contractau adeiladu sy’n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru yn unol ag erthygl 3.

Darpariaethau sy’n dod i rym drannoeth gwneud y Gorchymyn hwn

3. Mae adran 138 o’r Ddeddf yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion.

 

 

John Griffiths

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

17 Mehefin 2011

 



([1])   2009 p.20.